Mae cwmni morwrol sydd wedi’i leoli yn Noc Penfro wedi cyhoeddi y gallai 130 o weithwyr golli eu swyddi.

Gallai cwmni Mustang Marine, sy’n adeiladu cychod, fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae’n un o brif fuddsoddiadau Ardal Menter Dyfrffordd y Daugleddau.

Cafodd 100 o swyddi newydd eu creu’r llynedd fel rhan o fuddsoddiad gwerth £1.5 miliwn i wasanaethu gwledydd eraill ym mhedwar ban y byd.

Fe wnaeth y cwmni golledion difrifol y llynedd oherwydd iddyn nhw fethu cwblhau cytundebau mewn da bryd.

Wedi i reolwyr newydd gymryd yr awenau, derbyniodd y cwmni gyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Porth Aberdaugleddau ymysg eraill.

Ond aeth y cwmni i drafferthion wedi i gytundeb gyda thrydydd grŵp ddod i ben.

Mae’r cwmni bellach yn chwilio am brynwr newydd.

Cafodd y cwmni ei sefydlu’n wreiddiol fel busnes teuluol yn 1984 yn Abergwaun, ond fe symudodd i Ddoc Penfro yn 1997 wrth i’r cwmni dyfu.

Cafodd ei brynu yn 2012, a’i ail-frandio trwy gytundeb gydag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.