Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gydag ysbyty preifat sy’n golygu y bydd rhai cleifion sydd angen llawdriniaeth y galon ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf yn cael triniaeth ym Mryste.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gydag Ysbyty Spire ym Mryste yn y tymor byr hyd at fis Medi eleni.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud yn y gorffennol na fyddai’r sector preifat yn ymyrryd yn y Gwasanaeth Iechyd.

Ond cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw.

Heddiw daeth i’r amlwg bod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi mynegi pryderon unwaith eto am gleifion yn marw tra’n aros am lawdriniaethau ar y galon.

Mae’r Coleg wedi ysgrifennu at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gofyn pa gamau sydd wedi cael eu cymryd i wella’r sefyllfa yn ne Cymru.

Chwe mis ers iddyn nhw fynegi pryderon am ddiogelwch cleifion oherwydd amseroedd aros hir, maen nhw’n dal i aros am gyhoeddi dau adroddiad ar y mater.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd  camau i wella gwasanaethau ar gyfer cleifion.

‘Problemau difrifol’

Yn ôl y Ceidwadwyr yng Nghymru mae’r cytundeb yn dangos bod “problemau difrifol wrth ateb y galw am wasanaethau’r galon yng Nghymru.”

Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Darren Millar: “Dyma gyfaddefiad fod yna broblemau difrifol wrth ateb y galw am wasanaethau’r galon yng Nghymru a bod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn gywir fod cleifion yn marw wrth aros yn rhy hir am driniaeth.

“Mynegodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon y pryderon hyn am y tro cyntaf chwe mis yn ôl, ond nid yw gweinidogion Llafur, yn syml iawn, wedi gwneud dim.

“Ond ar yr union ddiwrnod y mynegodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ragor o bryderon trwy’r cyfryngau, dyma Lywodraeth Lafur Cymru’n rhyddhau gwybodaeth am gytundeb gydag ysbyty preifat ym Mryste, er gwaethaf ei haddewid ideolegol flaenorol i gadw’r sector annibynnol allan o’r Gwasanaeth Iechyd.

“Dyma benllanw sinigiaeth a rhagrith ac mae’n dangos bod rhaid cywilyddio’r Llywodraeth Lafur hon i weithredu er lles cleifion.”

‘Methu ateb y galw presennol’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ansawdd llawfeddygaeth y galon yn ne Cymru yn dda iawn, felly hefyd y canlyniadau ar gyfer cleifion.

“Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn gwybod nad oes digon o allu i ateb y galw presennol, a dyna pam ein bod ni eisoes wedi cymryd nifer o gamau ar unwaith i gyflymu triniaeth.

“Mae’r rhain yn cynnwys cynnig triniaeth i gleifion mewn canolfannau eraill i’r galon, a chynnal llawdriniaethau ar benwythnosau.

“Mae 80 o lawdriniaethau ychwanegol ar gyfer cleifion y galon yng Nghymru wedi cael eu comisiynu yn Lloegr hyd at ddiwedd mis Mawrth, gyda rhagor i ddilyn os bydd angen er mwyn lleihau amserau aros.

“Yn y tymor hirach, mae gennym ni gynllun dwy flynedd i wneud llawfeddygaeth y galon yn gynaliadwy ac fe wnaethon ni fuddsoddi £1.3 miliwn yn ddiweddar er mwyn uwchraddio theatrau’r galon yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

“Mae manylion ar gael yn hollol agored ar wefan Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.”