Mae tri dyn a dynes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud a therfysgaeth sy’n gysylltiedig â’r rhyfel cartref yn Syria, meddai’r heddlu.
Dywedodd Heddlu’r West Midlands eu bod nhw wedi arestio dyn 45 oed o ardal Hall Green yn Birmingham ar amheuaeth o fynd i wersyll sy’n hyfforddi terfysgwyr. Mae’n debyg mai Moazzam Begg, cyn garacharor ym Mae Guantanamo yw’r dyn gafodd ei arestio.
Cafodd dyn 36 oed, o ardal Shirley a dynes 44 oed a’i mab 20 oed, o ardal Sparkhill yn y ddinas, hefyd eu harestio ar amheuaeth o hyrwyddo terfysgaeth dramor.
Mae’r troseddau i gyd yn ymwneud a’r gwrthdaro yn Syria, meddai’r heddlu.