Viktor Yanukovych
Mae’r Wcrain wedi dechrau ymgyrch etholiadol i ddewis arlywydd newydd ar 25 Mai, wrth i Viktor Yanukovych barhau ar ffo.

Mae gan ymgeiswyr hyd at 4 Ebrill i gofrestru i gymryd rhan yn yr ymgyrch.

Un o’r ymgeiswyr posib yw cyn brif weinidog y wlad Yulia Tymoshenko, a oedd yn gwrthwynebu llywodraeth Viktor Yanukovych. Cafodd hi ei rhyddhau o’r carchar ddydd Sadwrn.

Mae llywodraeth dros dro dan arweiniad llefarydd y senedd, Oleksandr Turchinov, wedi cael ei sefydlu ar ôl i’r Arlywydd Viktor Yanukovych ffoi o’r wlad wedi misoedd o brotestiadau gwaedlyd yn y brifddinas Kiev.

Mae’r awdurdodau yn Kiev wedi cyhoeddi gwarant i arestio Yanukovych ar amheuaeth o ladd 82 o bobl, protestwyr yn bennaf, yn dilyn gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr.

Hague yn trafod â Kerry

Yn y cyfamser fe fydd  Ysgrifennydd Tramor Prydain William Hague yn cwrdd â John  Kerry, Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau, i drafod rhoi cymorth ariannol brys i’r Wcrain.

Mae Hague wedi rhybuddio bod yr Wcrain yn wynebu problemau economaidd dybryd heb gymorth gan y gymuned ryngwladol ac mae Washington wedi dweud ei bod yn barod i roi arian gyda phartneriaid eraill er mwyn sefydlogi’r wlad.

Mae arbenigwyr fforensig o Brydain yn yr Wcrain er mwyn ceisio darganfod pwy oedd yn gyfrifol am saethu dwsinau o brotestwyr wythnos ddiwethaf, yn ôl adroddiadau.