Harriet Harman
Mae Harriet Harman wedi mynnu nad yw hi wedi gwneud dim o’i le ar ôl iddi gael ei chysylltu ag ymgyrch hanesyddol yn ymwneud a hawliau pedoffiliaid.

Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn honni bod ’na ymdrech i bardduo ei henw ar ôl i straeon am ei chysylltiad â’r ymgyrch gael eu cyhoeddi yn y Daily Mail.

Mae’r papur newydd wedi cyhoeddi cyfres o straeon ynglŷn â gwaith Harriet Harman a’i gwr, yr Aelod Seneddol Jack Dromey, pan oedden nhw’n swyddogion gyda Chyngor Cenedlaethol Hawliau Sifil (NCCL) yn y 1970au.

Ar raglen BBC2 Newsnight neithiwr fe wrthododd Harriet Harman ateb cwestiynau’n uniongyrchol am y penderfyniad o ganiatáu i’r grwp Paedophile Information Exchange (PIE) fod a chysylltiad â’r NCCL.