Carwyn Jones
Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn teithio i Washington heddiw er mwyn ceisio tynnu sylw’r Unol Daleithiau at Gymru, o flaen dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd y Prif Weinidog yn treulio tri diwrnod yn Washington, cyn mynd yn ei flaen i Efrog Newydd i gymryd rhan mewn cyfres o gyfarfodydd a digwyddiadau i hyrwyddo Cymru.
Yn ystod yr ymweliad bydd Cawcws Cyfeillion Cymru yn cael ei lansio, lle bydd grŵp o gyngreswyr yn cynnal digwyddiadau er mwyn ennyn diddordeb llywodraeth America yng Nghymru.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn lansio’r daith gerdded DT100 yn Efrog Newydd sy’n daith a fydd yn mynd o amgylch llefydd enwog sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas, i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth yr awdur.
Bydd yr ymweliad hefyd yn cynnwys amryw o ymweliadau busnes â buddsoddwyr allweddol o’r Unol Daleithiau, gan gynnwys Airbus a Phrif Swyddog Gweithredol Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd.
Masnach ryngwladol
“Mae Cymru wedi bod yn bartner buddsoddi pwysig yn yr Unol Daleithiau ers blynyddoedd lawer,” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae’r ymweliad hwn yn dilyn ein taith fasnach lwyddiannus i arfordir gorllewinol America’r llynedd, a agorodd sawl drws i fusnesau o Gymru, gan gynnwys menter ar y cyd rhwng Hydro Industries o Langennech a T&T Salvage. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, dechreuodd Hydro Industries anfon ei system puro dŵr môr yno, ac mae’n dda gennyf weld fod y cwmni yn mynd o nerth i nerth.
“Mae llwyddiant busnesau fel Hydro Industries yn dangos pam fod rhaid inni gael ein gweld mewn marchnadoedd ymhob cwr o’r byd.
“Mae ein neges yn glir – mae Cymru yn lle gwych ar gyfer busnes. Mae gennym weithlu medrus, cyswllt â Marchnad Sengl Ewrop, a phecyn cymorth unigryw.”
‘Teithio’r byd ar arian trethdalwyr’
Yn ôl William Graham AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Fusnes, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru brofi bod teithiau dramor yn gwneud “gwahaniaeth positif”:
“Mae Gogledd America yn bartner masnach bwysig i Gymru ac fe all gwella cysylltiadau masnach fod yn fuddiol i economi Cymru.
“Ond mae’n rhaid i Carwyn Jones fod yn wyliadwrus o gyhuddiadau ei fod yn teithio’r byd ar arian trethdalwyr a sicrhau fod y daith yn un cynhyrchiol.
“Mae teithiau fel hyn yn gallu bod yn bwysig i sicrhau cytundebau i fusnesau Cymreig, ond rydym angen gweld tystiolaeth fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth positif.
“Mae’r dewis o arweinwyr busnes i fynd gyda’r Prif Weinidog ar y teithiau hefyd yn hanfodol – fe ddylai’r rheiny gynnwys academyddion sy’n chwilio am nawdd pellach i ddatblygu syniadau Cymreig.
“Yn dilyn taith ddiwethaf Carwyn Jones i Ogledd America, roedd gostyngiad yn y cysylltiadau masnach o Gymru, felly gobeithio y bydd y daith yma yn un fwy llwyddiannus.”