Sarah Rochira
Wrth i Awdurdodau Lleol wario llai ar wasanaethau cymunedol oherwydd yr angen i dorri cyllidebau, mae adroddiad newydd gan Gomisiynydd Pobol Hŷn Cymru yn pryderu fod hyn am gael effaith andwyol ar fywydau pobol hŷn.

Mae’r adroddiad ‘Pwysigrwydd ac Effaith Gwasanaethau Cymunedol yng Nghymru’, yn dweud fod gwarchod gwasanaethau cymunedol yn “hanfodol” i iechyd, annibyniaeth a lles yr henoed.

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru: “Mae pobol hŷn yn aml yn sôn wrthyf am yr angen i ganolbwyntio mwy ar bwysigrwydd gwasanaethau lleol a chymunedol allweddol, fel bysus a chludiant cymunedol, toiledau cyhoeddus, palmentydd, seddi’r cyhoedd, mannau yn yr awyr agored, llyfrgelloedd, cyfleusterau hamdden, canolfannau cymunedol a dydd.

“Dylid edrych ar y gwasanaethau hyn fel asedau cymunedol hanfodol.”

Daw’r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn o gyfres o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda phobol hŷn ledled Cymru, yn ogystal â gan amrywiaeth o bartneriaid sy’n arbenigo mewn meysydd arbenigol.

Cymorth

Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi pecyn i roi cymorth i bobol hŷn gysylltu ag awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw geisio dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n mynd i’w heffeithio nhw.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn bwriadu cynnal nifer o seminarau i staff awdurdodau lleol, er mwyn cyflwyno’r achos dros gadw gwasanaethau, cyfleusterau a seilwaith cymunedol yng Nghymru, ac er mwyn trafod a chytuno ar ffordd effeithiol ymlaen.

‘Osgoi’r dewis hawdd’

Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr dros Bobol Hŷn: “Rwy’n croesawu’r adroddiad ac yn credu ei fod yn asesiad trylwyr o ddarpariaeth y gwasanaethau cymdeithasol i bobol hŷn.

“Mae nifer o bobol hŷn yn dweud mai’r peth anoddaf am geisio byw bywyd o ansawdd uchel yw ceisio delio hefo unigrwydd, sy’n pwysleisio pwysigrwydd gwarchod y gwasanaethau yma.

“Wrth i awdurdodau lleol Cymru wynebu toriadau heriol, fe ddylen nhw osgoi cymryd y dewis hawdd o gael gwared a’r gwasanaethau a cheisio meddwl yn fwy effeithlon ac arloesol am y ffordd maen nhw’n darparu’r gwasanaethau.

“Rydym yn croesawu’r arweiniad y mae’r Comisiynydd yn mynd i’w roi i awdurdodau lleol, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud eu rhan hefyd a’i gwneud yn haws i bobol warchod a throsglwyddo perchnogaeth y gwasanaethau cymunedol.”