Dean Colclough
Mae chwaraewr rygbi o Gymru wedi cael ei wahardd o bob camp chwaraeon am wyth mlynedd ar ôl iddo ei gael yn euog o fod a steroids yn ei feddiant a’u gwerthu.
Dyma’r gwaharddiad hiraf i’w roi yn hanes rygbi Prydain.
Roedd Dean Colclough, 34, yn arfer chwarae gyda chlwb rygbi Abertawe ond yn chwarae i glwb rygbi Treforys pan wnaeth gyflawni’r troseddau.
Roedd y chwaraewr rygbi yn rhedeg cwmni o’r enw Dragon Nutrition Cyf a oedd yn gwerthu steroids anabolig.
Dywedodd y corff gwrthgyffuriau UKAD (UK Anti-Doping), fod ymchwiliad wedi cael ei lansio wedi i swyddogion dderbyn gwybodaeth am Dean Colclough gan heddlu ffiniau’r DU. Cafodd y chwaraewr rygbi wedyn ei gyhuddo o feddiannu a gwerthu’r cyffuriau.
Fe’i cafwyd yn ddieuog mewn achos arall o werthu steroids i Sam Chalmers – bachgen 19 oed a gafodd ei wahardd am ddwy flynedd o dîm o dan 20 Yr Alban, am brofi’n bositif am y cyffuriau.
Dywedodd cyfarwyddwr cyfreithiol UKAD, Graham Arthur fod yr achos yn un difrifol iawn:
“Mae’r canfyddiadau yn dangos fod gan bawb ym maes chwaraeon gyfrifoldeb i hybu agwedd gwrth gyffuriau,” meddai.