Sam Vokes
Sgoriodd Sam Vokes ddwy gôl i Burnley dros y penwythnos mewn buddugoliaeth o 3-1 dros Nottingham Forest i’w cadw nhw’n ail yn y Bencampwriaeth.
Mae gan yr ymosodwr bellach 18 gôl y tymor hwn, ac roedd yn hwb amserol iddo i geisio gosod ei farc yn rhyngwladol, gyda Chris Coleman yn dewis ei garfan Cymru ddiweddaraf heddiw.
Serennodd Gareth Bale nos Sadwrn hefyd, gan rwydo gôl wych o 30 llathen i ddyblu mantais Real Madrid mewn buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn erbyn Elche.
Yn yr Uwch Gynghrair, colli 4-3 i Lerpwl mewn gêm gyffrous oedd hanes Ashley Williams a Neil Taylor gydag Abertawe, Joe Allen yn chwarae hanner awr i’r Cochion yn erbyn ei gyn-glwb.
Colli oedd hanes Crystal Palace hefyd o 2-0 yn erbyn Man United, gyda Joe Ledley’n chwarae gêm lawn.
Roedd James Collins a West Ham yn fwy ffodus gan drechu Southampton 3-1 gartref, tra bod Paul Dummett wedi chware 90 munud llawn i Newcastle wrth iddyn nhw gadw llechen lân a churo Aston Villa 1-0.
Dim ond chwarter awr gafodd Declan John i Gaerdydd, ac roedd y niwed wedi’i wneud eisoes gyda Hull 4-0 ar y blaen erbyn i’r Cymro ddod i’r maes.
Yn y Bencampwriaeth cafwyd cyfraniad gwerthfawr arall gan Emyr Huws i Birmingham, wrth iddo greu’r gôl fuddugol i Lee Novak gyda chroesiad er mwyn trechu Blackpool 2-1.
Llwyddodd Charlton i gipio buddugoliaeth bwysig yn erbyn QPR diolch i gôl yn y munud olaf gan Johnny Jackson, gyda Rhoys Wiggins a Simon Church yn chwarae gemau llawn.
Yn ogystal â hynny fe chwaraeodd Adam Henley, Chris Gunter a Steve Morison gemau llawn, gyda Shaun MacDonald, David Cotterill a Hal Robson-Kanu yn ymddangos o’r fainc.
Chwaraeodd Adam Matthews a Sam Ricketts gemau llawn i Celtic a Wolves wrth i’r ddau dîm ennill oddi cartref a chadw llechen lan.
Roedd pedwar o’r Cymry hefyd i’w gweld wrth i Tranmere drechu Coventry 3-1, Jason Koumas yn creu un o’r goliau ac Owain Fôn Williams, Jake Cassidy ac Ash Taylor hefyd yn dechrau.
Seren yr wythnos: Sam Vokes – dwy gôl arall. Ydi Cymru wedi ffeindio’r John Hartson nesaf o’r diwedd?
Siom yr wythnos: Danny Gabbidon – wedi colli’i le yn amddiffyn Palace bellach ar ôl i’r clwb arwyddo Scott Dann.