Aaron Ramsey
Dyw Aaron Ramsey heb gael ei enwi yng ngharfan Cymru i wynebu Gwlad yr Ia mewn gêm gyfeillgar yr wythnos nesaf, gyda’r chwaraewr canol cae yn dal i ddioddef o anaf i’w goes.

Ond fe fydd nifer o enwau mawr Cymru, gan gynnwys Gareth Bale a Joe Allen, ar gael i Chris Coleman wrth i baratoadau ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2016 ddechrau o ddifrif.

Does dim llawer o syndod yng ngweddill enwau’r garfan, sydd hefyd yn cynnwys chwaraewr canol cae Birmingham Emyr Huws.

Cafodd Declan John, Steve Morison a Harry Wilson eu henwi ymysg y chwaraewyr wrth gefn.

Mae David Vaughan ac Andrew Crofts ymysg yr enwau sydd yn absennol oherwydd anafiadau tymor hir.

Cafodd grwpiau’r rowndiau rhagbrofol eu dewis ddoe, gyda Chymru’n wynebu Bosnia, Gwlad Belg, Israel, Cyprus ac Andorra yng Ngrŵp B.

Bydd Cymru’n wynebu Gwlad yr Ia ar nos Fercher 5 Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae gêm gyfeillgar hefyd wedi’i threfnu i Gymru yn Amsterdam yn erbyn yr Iseldiroedd ym Mehefin, cyn i’r ymgyrch Ewro 2016 ddechrau ym mis Medi.

Dywedodd Coleman wrth gyhoeddi’r garfan ei fod yn gobeithio y bydd Bale ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad yr Ia.

“Mae wedi dechrau’n dda ym Madrid ac yn creu a sgorio digon o goliau,” meddai Coleman. “Does gennym ni ddim llawer o gemau paratoi felly mae’n bwysig ei fod yma gyda ni, ond fe fyddai’n monitro’r sefyllfa.”

Dywedodd Coleman hefyd ei fod yn edrych ymlaen at gael Emyr Huws a Sam Vokes yn ei garfan, gyda’r ddau yn serennu yn y Bencampwriaeth yn ddiweddar.

“Mae [Emyr Huws] yn chwaraewr ifanc sy’n haeddu ei gyfle,” meddai Coleman. Mae wedi gwneud yn dda ym Man City ac yn ddiweddar ar fenthyg ym Mirmingham.

“Gydag Aaron Ramsey ddim ar gael mae’n gyfle da i gael Emyr gyda ni er mwyn iddo ddangos yn yr ymarfer beth mae’n gallu’i wneud.

“Mae Sam yn edrych yn siarp ac wedi ffitio mewn yn dda yn Burnley. Gall fod yn chwaraewr mawr i ni os ydyn ni’n paratoi ar gyfer chwaraewr o’r fath. Wedi dweud hynny mae’n symud yn dda am ddyn mawr.”

Carfan Cymru: Wayne Hennessey, Boaz Myhill, Owain Fôn Williams; James Collins, Ben Davies, Danny Gabbidon, Chris Gunter, Adam Matthews, Ashley Richards, Neil Taylor, Ashley Williams; Joe Allen, Jack Collison, Emyr Huws, Andy King, Joe Ledley, Jonathan Williams; Gareth Bale, Simon Church, Jermaine Easter, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes

Wrth gefn: David Cornell, James Wilson, Declan John, Adam Henley, Lewin Nyatanga, Rhoys Wiggins, Harry Wilson, Shaun MacDonaid, Lloyd Isgrove, Tom Lawrence, Steve Morison, Craig Davies