Andy Morrell
Mae Andy Morrell wedi gadael ei swydd fel rheolwr Wrecsam ar ôl dwy flynedd a hanner wrth y llyw.

Mewn datganiad ar wefan y clwb heddiw fe ddywedodd Wrecsam fod Morrell wedi cytuno i adael ar ôl trafodaethau gyda’r bwrdd.

Mae Wrecsam wedi cael tymor siomedig hyd yn hyn ac yn 13eg yn nhabl y Gyngres, deg pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle, ac fe gollon nhw 1-0 i Barnet ar y penwythnos.

Yn ei ddau dymor cyntaf fel chwaraewr-reolwr llwyddodd Morrell i arwain Wrecsam i’r gemau ail gyfle dwywaith, gan golli yn y rownd derfynol i Gasnewydd y llynedd.

Llai na blwyddyn yn ôl fe lwyddodd Wrecsam i ennill Tlws FA Lloegr ar ôl curo Grimsby ar giciau o’r smotyn yn Wembley.

Wrth gyhoeddi’r newyddion fe ddywedodd Morrell ei fod yn gadael er lles ef a’r clwb, gan ddiolch i’w staff a’i chwaraewyr.

“Rwy’n teimlo mai’r peth gorau ar gyfer CPD Wrecsam a finnau yw newid pethau nawr, er mwyn i ni allu cynllunio am y dyfodol gyda sicrwydd,” meddai Morrell mewn datganiad.

“Rwy’n hynod o siomedig yn sut mae’r tymor wedi bod, ac roeddwn i’n ysu am arwain y clwb yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed lle dwi’n teimlo mae’r clwb yn haeddu bod.

“Ond rwy’n hynod o falch o’m llwyddiannau dros y ddwy flynedd ac fe fydd gweld 20,000 o gefnogwyr Wrecsam yn dathlu gyda mi yn dal Tlws yr FA yn aros yn hir yn y cof.”

Diolchodd y bwrdd i Morrell am ei waith, gyda’r clwb yn dweud eu bod yn dal i anelu am ddyrchafiad o’r gynghrair.

“Hoffwn ddiolch i Andy am ei waith caled fel chwaraewr a rheolwr a’r atgofion y bydd cefnogwyr Wrecsam wastad yn trysori,” meddai Don Bircham ar ran y bwrdd.

“Mae’n ffigwr poblogaidd yma yn y Cae Ras ac fe fydd croeso yn ôl iddo unrhyw bryd yn y dyfodol. Hoffwn ddymuno’n dda iddo ac fe fyddwn yn dilyn ei yrfa â diddordeb.”

Billy Barr fydd yn cymryd yr awenau dros dro gyda Michael Oakes yn ei gynorthwyo.