Gweilch 11–25 Munster

Colli fu hanes y Gweilch yn y RaboDirect Pro12 brynhawn Sul wrth i Munster ennill ar y Liberty.

Rheolodd y Gweilch rannau helaeth o’r gêm, yn enwedig yn yr ail hanner, ond roedd y tîm cartref yn rhy wastraffus wrth ymosod a braidd yn flêr wrth amddiffyn a manteisiodd Munster yn llawn.

Roedd Munster saith pwynt ar y blaen wedi dim ond saith munud diolch i gais Sean Dougall a throsiad Ian Keatley.

Cyfnewidiodd Keatley a Sam Davies gic gosb yr un wedi hynny cyn i faswr y Gwyddelod lwyddo gydag un arall i ymestyn y fantais i ddeg pwynt chwarter awr cyn yr egywl.

Ond y Gweilch a orffennodd yr hanner gryfaf ac roeddynt yn ôl yn y gêm ym munud olaf yr hanner yn dilyn cais unigol da gan Ashley Beck. Torodd y canolwr trwy dacl wan Keatley cyn curo dau ddyn arall a thirio, 8-13 ar yr egwyl.

Adferodd Munster y deg pwynt o fantais serch hynny yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Simon Zebo redeg hanner hyd y cae cyn croesi wedi i Beck golli’r bêl yn ardal y dacl.

Felly yr arhosodd hi tan ddeuddeg munud o’r diwedd pan ddaeth cic gosb Davies â’r Gweilch yn ôl o fewn un sgôr.

Y tîm cartref oedd yn gorffen y gêm gryfaf hefyd ond y Gwyddelod yn hytrach a gafodd y cais nesaf, wrth i James Downey fanteisio wedi i’r Gweilch wastraffu’r meddiant yn eu hanner eu hunain, 11-25 wedi trosiad yr eilydd faswr, JJ Hanrahan.

Dim hyd yn oed pwynt bonws i’r Gweilch felly er gwaethaf eu rheolaeth yn yr hanner awr olaf ac maent yn disgyn i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12 o ganlyniad.

.

Gweilch

Cais: Ashley Beck 39’

Ciciau Cosb: Sam Davies 18’, 68’

Cerdyn Melyn: Ryan Jones 79’

.

Munster

Ceisiau: Sean Dougall 6’, Simon Zebo 46’, James Downey 71’

Trosiadau: Ian Keatley 7’, JJ Hanrahan 71’

Ciciau Cosb: Ian Keatley 16’, 26’