Dreigiau 24–23 Glasgow
Roedd y Dreigiau’n fuddugol mewn gêm agos yn erbyn Glasgow yn y RaboDirect Pro12 ar Rodney Parade brynhawn Sul.
Yr Albanwyr oedd ar y blaen ar hanner amser ond tarodd y Dreigiau’n nôl yn yr ail gyfnod ac roedd ceisiau Nick Cudd a Ross Warlde yn y chwarter olaf yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Dechreuodd Glasgow ar dân gyda chais i’r blaenasgellwr, Rob Harley, a throsiad gan Finn Russell.
Tarodd Jason Tovey’n nôl gyda thri phwynt i’r Dreigiau cyn i Mark Bennett adfer y saith pwynt o fantais gyda chic gosb i’r ymwelwyr.
Roedd y Dreigiau’n gyfartal wedi deg munud ar ôl i’r prop, Owen A. Evans, groesi am gais cyntaf y Cymry ond Glasgow oedd ar y blaen ar hanner amser diolch i gais y mewnwr o Fiji, Nikola Matawalu, 10-17 ar yr egwyl.
Ymestynnodd Russell y fantais i ddeg pwynt gyda thri phwynt cyntaf yr ail hanner ond gorffennodd y Dreigiau’n gryf.
Croesodd y blaenasgellwr, Cudd, am gais toc wedi’r awr cyn i gais yr asgellwr, Wardle, a throsiad Rhys Jones roi’r Dreigiau bwynt ar y blaen gyda deg munud i fynd.
Cafodd Glasgow gyfleoedd i fynd yn ôl ar y blaen yn y munudau olaf ond daliodd y Dreigiau eu gafael i sicrhau buddugoliaeth dda.
Mae’r fuddugoliaeth honno yn codi tîm Lyn Jones i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12.
.
Dreigiau
Ceisiau: Owen A. Evans 14’, Nick Cudd 62’, Ross Wardle 70’
Trosiadau: Jason Tovey 14’, Rhys Jones 62’, 70’
Cic Gosb: Jason Tovey 10’
.
Glasgow
Ceisiau: Rob Harley 3’, Nikola Matawalu 35’
Trosiad: Finn Russell 3’, 35’
Ciciau Cosb: Mark Bennett 13’, Finn Russell 56’, 67’