Rheolwr Cymru Chris Coleman
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016 gyda thrip i Andorra ym mis Medi, cyn herio Bosnia a Chyprus gartref ym mis Hydref.
Cafodd y grwpiau eu dewis amser cinio heddiw, gyda UEFA’n cyhoeddi’r rhestr o gemau oriau’n ddiweddarach.
Mae’r ddwy gêm yn erbyn Gwlad Belg ym mis Tachwedd eleni (i ffwrdd) ac ym mis Mehefin 2015 (gartref).
Bydd Cymru’n gorffen yr ymgyrch ym mis Hydref 2015 gyda thrip i Fosnia ac yna gêm gartref yn erbyn Armenia.
Fe fyddwn nhw hefyd yn teithio i Gyprus a herio Israel dwywaith yn 2015.
Cafodd dyddiadau’r gemau eu cyhoeddi brynhawn yma, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru’n trydar y rhestr.
Mae UEFA wedi cyhoeddi ‘wythnos o bêl-droed’ ar gyfer y rowndiau rhagbrofol, fydd yn golygu gemau’n cael eu chwarae rhwng dydd Iau a dydd Mawrth.
Bydd Cymru’n wynebu Bosnia a Gwlad Belg gartref ar nos Wener, Cyprus gartref ar nos Lun, Israel gartref ar nos Sul ac Andorra gartref ar nos Fawrth.
Gemau rhagbrofol Ewro 2016 Cymru:
Andorra vs CYMRU – 9 Medi 2014
CYMRU vs Bosnia-Herzegovina – 10 Hydref 2014
CYMRU vs Cyprus – 13 Hydref 2014
Gwlad Belg vs CYMRU – 16 Tachwedd 2014
Israel vs CYMRU – 28 Mawrth 2015
CYMRU vs Gwlad Belg – 12 Mehefin 2015
Cyprus vs CYMRU – 3 Medi 2015
CYMRU vs Israel – 6 Medi 2015
Bosnia-Herzegovina vs CYMRU – 10 Hydref 2015
CYMRU vs Andorra – 13 Hydref 2015