Lerpwl 4–3 Abertawe
Roedd Abertawe’n anlwcus iawn i golli yn erbyn Lerpwl yn Anfield yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sul.
Aeth y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen cyn i’r Elyrch daro nôl i unioni pethau. Roedd Lerpwl yn ôl ar y blaen erbyn hanner amser ond y Cymry’n gyfartal eto yn gynnar yn yr ail gyfnod. Yna, rhoddodd Jordan Henderson y Cochion ar y blaen drachefn chwarter awr o’r diwedd ac roedd hi’n gofyn gormod i Abertawe daro nôl eto.
Roedd Lerpwl ar y blaen wedi dim ond tri munud wedi i Daniel Sturridge gwblhau gwrthymosodiad chwim gan y tîm cartref.
Crymanodd Henderson yr ail i gefn y rhwyd wedi ugain munud ond tarodd yr Elyrch yn ôl gyda dwy gôl mewn pum munud. Cyn chwaraewr Lerpwl, Jonjo shelvey, a gafodd y gyntaf gydag ergyd daclus o ugain llath cyn i Wilfred Bony benio’r ail o groesiad Jonothan De Guzman.
Peniodd Sturridge Lerpwl yn ôl ar y blaen o groesiad Luis Suarez wedi hynny ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.
Unionodd Bony o’r smotyn reit ar ddechrau’r ail hanner ar ôl cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Martin Skertel.
Ond aeth Lerpwl ar y blaen eto un munud ar bymtheg or diwedd pan sgoriodd Henderson ei ail ef a phedwaredd ei dîm. Ymatebodd y chwaraewr canol cae yn gynta na neb wedi i gynnig gwreiddiol Suarez gael ei atal.
Doedd gan tîm Garry Monk ddim ymateb y tro hwn ac yn wir, Lerpwl a addaeth agosaf at sgorio eto ond tarodd cynnig Steven Gerrard yn erbyn y postyn.
Mae’r canlyniad yn cadw Lerpwl yn y pedwar uchaf ond mae Abertawe’n disgyn i’r deuddegfed safle, bedwar pwynt o safleoedd y gwymp.
.
Lerpwl
Tîm: Mignolet, Flanagan, Johnson, Gerrard, Skrtel, Agger (Kolo Touré 63′), Henderson, Coutinho, Suarez, Sturridge (Moses 79′), Sterling (Allen 58′)
Goliau: Sturridge 3’, 36’, Henderson 20’, 74’
Cerdyn Melyn: Skertel 26’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel, Taylor, Britton, Chico, Williams, Dyer (Ngog 78′), De Guzmán (Hernández 73′), 10 Bony, Shelvey (Cañas 45′), Routledge
Goliau: Shelvey 23’, Bony 27’, 47’ [c.o.s.]
.
Torf: 44,731