Mae Gwlad Belg wedi cael eu dewis unwaith eto yng ngrŵp Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.
Bydd Cymru hefyd yn gorfod wynebu Bosnia-Herzegovina, Israel, Cyprus ac Andorra i geisio cyrraedd y bencampwriaeth derfynol yn Ffrainc mewn dwy flynedd.
Bydd yr Alban yn grŵp ‘D’ efo Yr Almaen, Gibraltar, Georgia, Gwlad Pwyl a Gweriniaeth Iwerddon; Lloegr yn grŵp ‘E’ efo San Marino, Lithwania, Estonia, Slofenia a’r Swisdir, a Gogledd Iwerddon yn grŵp ‘F’ efo Groeg, Ynysoedd y Faroe, y Ffindir, Rwmania a Hwngari.
Mae’r drefn gymhwyso bellach yn wahanol gan fod yna 24 o dimau yn y rowndiau terfynol.
Golyga hyn bod yna naw o grwpiau yn y rowndiau rhagbrofol gyda wyth grŵp o chwe thîm ac un grŵp efo pum tîm.
Bydd dau dîm uchaf pob grŵp a’r tîm gorau yn y trydydd safle yn cyrraedd y twrnament terfynol, gyda gweddill y timau sydd yn drydydd yn wnebu gemau ail gyfle.
Seremoni Nice i Gymru?
Cafodd yr enwau eu dewis mewn seremoni yn Nice amser cinio heddiw, gyda Chymru ym Mhot 4.
Maen nhw wedi osgoi llawer o’r timau cryfaf, gyda Bosnia yn cael eu hystyried ymysg timau gwanaf Pot 1.
Fe wnaethon nhw hefyd lwyddo i osgoi timau fel Twrci a Serbia o Bot 3, ac yn lle hynny trip i Israel sydd ganddyn nhw.
Ond fe gawson nhw Wlad Belg o Bot 2, un o’r cryfaf ymysg y pot hwnnw a thîm a wynebodd Cymru yn eu hymgyrch ragbrofol ddiwethaf i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil.
Colli o 2-0 i wlad Belg oedd hanes Cymru gartref, cyn cael gêm gyfartal 1-1 ym Mrwsel yng ngêm olaf y grŵp.
Fe fydd ymgyrch Ewro 2016 yn dechrau ym mis Medi, gyda gemau’n cael eu chwarae dros ‘wythnos o bêl-droed’.
Grŵp A: Yr Iseldiroedd, Gweriniaeth Tsiec, Twrci, Latvia, Gwlad yr Ia, Casacstan
Grŵp B: Bosnia-Herzegovina, Gwlad Belg, Israel, CYMRU, Cyprus, Andorra
Grŵp C: Sbaen, Wcrain, Slofacia, Belarus, Macedonia, Lwcsembwrg
Grŵp D: Yr Almaen, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Pwyl, Yr Alban, Georgia, Gibraltar
Grŵp E: Lloegr, Swisdir, Slofenia, Estonia, Lithuania, San Marino
Grŵp F: Groeg, Hwngari, Rwmania, Y Ffindir, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Faro
Grŵp G: Rwsia, Sweden, Awstria, Montenegro, Moldova, Liechtenstein
Grŵp H: Yr Eidal, Croatia, Norwy, Bwlgaria, Azerbaijan, Malta
Grŵp I: Portiwgal, Denmarc, Serbia, Armenia, Albania