Airbus 1–1 Y Seintiau Newydd
Methodd Airbus gyfle i gau’r bwlch ar y Seintiau Newydd ar frig Uwch Gynghrair Cymru gyda gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn y pencampwyr o flaen camerâu Sgorio ar y Maes Awyr brynhawn Sadwrn.
Roedd hi’n gêm warthus yn yr hanner cyntaf ond roedd y ddau dîm yn well yn yr ail gyfnod. Yn enwedig felly Airbus ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda gôl Chris Budrys. Ond methodd y tîm cartref â dal eu gafael wrth i Sam Finley achub pwynt i’r Seintiau.
Cic rydd Chris Marriott i’r Seintiau oedd unig gyffro’r hanner cyntaf a llwyddodd James Coates yn y gôl i Airbus i’w harbed yn ddigon hawdd.
Roedd pethau gan mil gwaith gwell wedi’r egwyl a bu bron i Jamie Mullen roi’r ymwelwyr ar y blaen toc cyn yr awr ond tynnodd yr asgellwr ei ergyd ar draws y gôl a fodfeddi heibio’r postyn.
Daeth y gôl agoriadol bum munud yn ddiweddarach ac roedd hi’n dipyn o gôl hefyd. Daeth pas wych Tom Field o hyd i Budrys yn y cwrt cosbi a tharodd yntau foli heibio i Paul Harrison yn y gôl ar y cynnig cyntaf.
Saith munud yn unig a barodd mantais Airbus cyn i Finley unioni. Gwnaeth Coates yn dda iawn i arbed ergyd Chris Seargeant ond disgynnodd y bêl yn syth i lwybr chwaraewr canol cae dylanwadol y Seintiau a rhwydodd yntau.
Roedd Finley braidd yn ffodus i aros ar y cae ychydig funudau’n ddiweddarach pan darodd ei fraich wyneb Ryan Wignall.
Airbus a gafodd y cyfle gorau i’w hennill hi yn y munudau olaf ond cafodd peniad da Budrys ei glirio oddi ar y llinell yn wych gan Phil Baker.
Bu rhaid i Airbus fodloni ar bwynt yn unig yn y diwedd. Mae’r pwynt hwnnw’n hen ddigon i’w cadw’n ail yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru, ond mae’r Seintiau’n aros chwe phwynt yn glir ar y brig.
.
Airbus
Tîm: Coates, Owens, Hart, Pearson, Kearney, Field, Owen (Roddy 86’), Williams, Budrys (A. Jones 89’), Wade (S. Jones), Wignall
Gôl: Budrys 65’
Cardiau Melyn: Hart 37’, Owens 80’, Owen 81’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Marriott, Baker, K. Edwards, Finley, A. Edwards, Wilde, Jones, Mullan, Darlington (Fowler 66’), Seargeant
Gôl: Finley 73’
Cardiau Melyn: Wilde 45’, Marriott 57’, Jones 83’
.
Torf: 195