Wrecsam 0–1 Barnet

Colli fu hanes Wrecsam yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Sadwrn wrth i Barnet adael y Cae Ras gyda’r tri phwynt diolch i gôl Jake Hyde.

Wrecsam oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ac fe fethodd Andy Bishop  ddau gyfle da i roi’r Dreigiau ar y blaen.

Roedd yr ymwelwyr yn well wedi’r egwyl ac fe ddaeth unig gôl y gêm ddeuddeg munud o’r diwedd pan sgoriodd Hyde o groesiad Andy Yiadom.

Mae Wrecsam yn llithro i’r hanner gwaelod o ganlyniad, maent bellach yn y trydydd safle ar ddeg, ddeg pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Tomassen, Livesey, Ashton, Harris, Keates, Carrington, Anyinsah (Ormerod 63′), Clarke, Durrell (Thornton 80′), Bishop (Ogleby 70′)

Cerdyn Melyn: Carrington 80’

.

Barnet

Tîm: Jupp, Stephens, Gjokaj, Johnso, Weston, Cadogan, Adams (Garcia Casabella 82′), Yiadom, Byrne, Marsh-Brown (Lopez Robles  67′), Hyde (Mengerink 90′)

Gôl: Hyde 79’

Cardiau Melyn: Yiadom 22’, Byrne 83’, Cadogan 90’, Weston 90’

.