Casnewydd 0–1 Cheltenham
Roedd un gôl yn ddigon wrth i Cheltenham guro Casnewydd yn y gêm Ail Adran ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Rhwydodd Ashley Vincent i’r ymwelwyr hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf a methodd Casnewydd â tharo nôl.
Cafodd Andrew Hughes a Chris Zebroski gyfleoedd da i’r tîm cartref yn yr ugain munud cyntaf cyn i Vincent roi’r ymwelwyr ar y blaen o groesiad Jermaine McGlashan.
Rheolodd Casnewydd y meddiant wedi hynny ond heb greu unrhyw gyfleoedd clir ac fe ddaliodd Cheltenham eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Mae gobeithion Justin Edinburgh a’i dîm o gyrraedd y safleoedd ail gyfle yn pylu bellach. Maent yn aros yn wythfed er gwaethaf y canlyniad hwn ond bellach wyth pwynt i ffwrdd o’r saith uchaf holl bwysig.
.
Casnewydd
Tîm: Parish, Minshull (Porter 60′), Sandell, Anthony, Yakubu, Hughes, Burge, Willmott, Howe (Jeffers 78′), Zebroski, Chapman (Crow 60′)
Cardiau Melyn: Burge 77’, Hughes 83’
.
Cheltenham
Tîm: Brown, Ihiekwe, Braham-Barrett, Richards, Brundle, Elliott, McGlashan, Vincent (Jombati 65′), Gornell, Harrison, Deering
Gôl: Vincent 23’
.
Torf: 3,130