Caerdydd 0–4 Hull
Mae tymor Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair mynd o ddrwg i waeth yn dilyn cweir gan Hull yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd goliau Tom Huddlestone a Nikica Jelavic yr ymwelwyr ddwy ar y blaen ar yr egwyl cyn i ail Jelavic ac un gan Jake Livermore gwblhau’r grasfa yn yr ail gyfnod.
Roedd Hull ar y blaen wedi dim ond deunaw munud ar ôl i ergyd Huddlestone o du allan i’r cwrt cosbi wyro heibio i David Marshall ac i gefn y rhwyd.
Ac roedd hi’n ddwy i ddim cyn hanner amser wedi i’r ddau flaenwr newydd Hull gyfuno i greu gôl, Shane Long yn creu a Jelavic yn rhwydo.
Sgoriodd y gŵr o Groatia ei ail ef a thrydedd ei dîm toc cyn yr awr pan beniodd groesiad Liam Rosenior heibio i Marshall yn y gôl.
Yna, sicrhawyd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr hanner ffordd trwy’r ail hanner pan orffennodd Livermore wrthymosodiad chwim gydag ergyd gadarn.
Prynhawn hynod siomedig i Gaerdydd felly ac mae’r canlyniad yn eu cadw yn safleoedd y gwymp, bwynt yn unig uwch ben Fulham ar waelod yr Uwch Gynghrair.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Fabio, Taylor (John 75′), Wolff Eikrem, Caulker, Torres Ruiz, Noone, Cowie, Jones, Campbell (Berget 79′), Zaha (Daehli 45′)
Cerdyn Melyn: Zaha 33’
.
Hull
Tîm: McGregor, Elmohamady, Rosenior, Figueroa, Bruce (Chester 71′), Davies, Livermore, Huddlestone (Boyd 63′), Long (Quinn 76′), Jelavic, Meyler
Goliau: Huddlestone 18’, Jelavic 38’, 57’, Livermore 67’
CerdynMelyn: Boyd 86’
.
Torf: 26,167