Scarlets 25–21 Caeredin

Sgoriodd Jordan Williams ddau gais ar Barc y Scarlets brynhawn Sadwrn wrth i Fois y Sosban drechu Caeredin mewn gêm agos yn y RaboDirect Pro12.

Cafodd Caeredin ddechrau da wrth i’r canolwr, Nick De Luca, groesi am gais cynnar i’r ymwelwyr. Llwyddodd Carl Bezuidenhout gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd i agor deg pwynt o fantais wedi deuddeg munud.

Caeodd Aled Thomas y bwlch i bedwar gyda dwy gic gosb i’r tîm cartref wedi hynny cyn i Bezuidenhout lwyddo gyda’i drydedd yntau.

Ond Bois y Sosban a orffennodd yr hanner gryfaf wrth i Jordan Williams sgorio dau gais yn neg munud olaf yr hanner. Croesodd y cefnwr am y cyntaf wyth munud cyn yr egwyl cyn ychwanegu ail yn y munud olaf i roi ei dîm 18-13 ar y blaen wedi deugain munud.

Roedd yr Albanwyr yn gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i gais yr asgellwr, Tom Brown, ond rhoddodd Adam Warren Fois y Sosban yn ôl ar y blaen toc cyn yr awr, 25-18 gyda chwarter y gêm i fynd.

Rhoddodd cic gosb Jack Cuthbert yr ymwelwyr yn ôl o fewn pedwar pwynt wedi hynny ond daliodd y Scarlets eu gafael ar y fuddugoliaeth yn y diwedd.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl y Pro12 serch hynny, wrth i’r Cymry aros yn y chweched safle.

.

Scarlets

Ceisiau: Jordan Williams 32’, 39’, Adam Warren 58’

Trosiadau: Aled Thomas 33’, 59’

Ciciau Cosb: Aled Thomas 16’, 22’

.

Caeredin

Ceisiau: Nick De Luca 4’, Tom Brown 49’

Trosiad: Carl Bezuidenhout 5’

Ciciau Cosb: Carl Bezuidenhout 12’, 33’, Jack Cuthbert 62’