Cymru 27–6 Ffrainc

Cafwyd perfformiad llawer gwell gan Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener wrth iddynt drechu Ffrainc yn gyfforddus yn Stadiwm y Mileniwm.

Yn dilyn dau berfformiad siomedig yn y ddwy gêm agoriadol, roedd tîm Warren Gatland gan mil gwaith gwell yr wythnos hon ac roedd ceisiau George North a Sam Warburton ynghyd â chicio cywir Leigh Halfpenny yn hen ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Hanner Cyntaf

Cafodd Cymru’r dechrau perffaith gyda thri phwynt o droed Halfpenny wedi dim ond tri munud. Ac fe aeth pethau’n well ddau funud yn ddiweddarach wrth i North sgorio’r cais agoriadol.

Dechreuodd y canolwr y gwrthymosodiad gyda phas wrthol i Liam Williams a’i orffen trwy fanteisio ar ddryswch amddiffynnol Ffrainc i gasglu cic Halfpenny a thirio.

Methodd Halfpenny ag ychwanegu’r trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb yn fuan wedyn ac roedd y tîm cartref un ar ddeg pwynt ar y blaen wedi dim ond deg munud.

Fe groesodd Yoann Huget i Ffrainc wedi hynny ond roedd y bêl wedi ei tharo ymlaen yn gynharach yn y symudiad.

Fe wnaeth Jean-Marc Doussain gicio pwyntiau cyntaf yr ymwelwyr yn fuan wedyn ond roedd y mewnwr yn cael hanner i’w anghofio a methodd gyfle llawer haws i gau’r bwlch ym mhellach.

Cymerodd y maswr, Jules Plisson, yr awenau wedi hynny gan lwyddo gyda’i gynnig cyntaf ef i ddod â’i dîm yn ôl o fewn wyth pwynt

Ond Cymru orffennodd yr hanner gryfaf ac ychwanegodd Halfpenny chwe phwynt arall yn y pum munud olaf, 20-6 i Gymru ar yr egwyl

Ail Hanner

Doedd yr ail hanner ddim cystal. Methodd Plisson a Halfpenny gic gosb yr un yn yr ugain munud cyntaf a bu rhaid i’r ddau brop, Gethin Jenkins a Nicola Mas dreulio deg munud yn y gell gosb wrth i Alain Roland golli amynedd gyda’r sgrym.

Wrth i’r ddau ddychwelyd i’r cae, fe aeth wythwr Ffrainc i’r cyfeiriad arall wrth i Louis Picamoles dderbyn melyn hefyd.

Manteisiodd Cymru yn llawn ar y fantais rifyddol hefyd wrth i’r capten, Warburton, groesi am ail gais y gêm. Rhwygodd Jamie Roberts trwy’r llinell fantais cyn i Warburton ymestyn at y llinell. Ychwanegodd Halfpenny’r trosiad ac roedd y gêm allan o afael y Ffrancwyr.

Mae’r canlyniad yn codi Cymru i’r ail safle yn nhabl y Chwe Gwlad ond gall hynny newid eto cyn diwedd y penwythnos.

.

Cymru

Ceisiau: George North 5’

Trosiad: Leigh Halfpenny

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 3’, 11’, 20’, 35’, 40’

Cerdyn Melyn: Gethin Jenkins 51’

.

Ffrainc

Ciciau Cosb: Jean-Marc Doussain 13’, Jules Plisson 32’

Cardiau Melyn: Nicola Mas 51’, Louis Picamoles 62’