David Murdoch, capten cwrlwyr Prydain
Mae tîm cwrlio dynion Prydain wedi methu cipio’r fedal aur yn Sochi.

Ar ôl trechu Sweden yn y rownd gyn-derfynol, yr oedd tîm cwrlio Prydain yn llawn gobaith wrth wynebu Canada yn y ffeinal heddiw.

Ond o’r cychwyn cyntaf  roedd Canada yn gryfach ymhob agwedd o’r gêm, er i Brydain barhau i frwydro hyd yr wythfed pen yn erbyn Pencampwyr cwrlio Olympics Vancouver yn 2010.

9 i 3 i Ganada oedd y sgôr terfynol.