Mae mam merch 11 mis oed a gafodd ei lladd gan gi neithiwr wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad.
Roedd Ava Jayne Marie Corless, yn cysgu yn ei chartref yn Stryd Emily, Blackburn am 11yh neithiwr pan ymosododd y ci arni. Dywed yr heddlu bod y ci yn fath o “pit bull Americanaidd”.
Cafodd Ava ei chludo i Ysbyty Brenhinol Blackburn ond bu farw’n ddiweddarach.
Cafodd mam y ferch, sy’n 20 oed, a’i phartner 24 oed, eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn a’u cadw yn y ddalfa. Maen nhw bellach wedi cael eu hail-arestio a’u cyhuddo o ddynladdiad.
Roedd y ddau yn y tŷ pan ddigwyddodd yr ymosodiad. Fe fyddan nhw’n cael eu holi gan dditectifs heddiw.
Mae’r ci wedi cael ei ddifa gan heddlu Sir Gaerhirfryn.
Dywed trigolion lleol eu bod nhw wedi gwneud sawl cwyn i’r heddlu am ymddygiad y ci yn y gorffennol.
Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i geisio darganfod sut y bu farw’r plentyn.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad llawn i’r digwyddiad a bod swyddogion yn cynnig cyngor i’r teulu ehangach.