Achub dynes o'i chartref yn Wraysbury, Berkshire
Mae mwy na 1,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi wrth i’r llifogydd waethygu.

Mae cannoedd o aelodau’r fyddin yn helpu yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio waethaf yn ne orllewin Lloegr.

Mae 400 o rybuddion am lifogydd a glaw trwm yn parhau mewn grym ar draws  Lloegr ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am ragor o law trwm a gwyntoedd cryfion dros y dyddiau nesaf. Gall rhai ardaloedd, gan gynnwys de Cymru, ddisgwyl hyd at 70mm (2.75 modfedd) o law nos Wener.

Mewn rhai achosion, mae perchnogion tai yn dweud bod lladron wedi dwyn o’u cartrefi a bod bagiau tywod hefyd wedi cael eu dwyn.

Neithiwr bu’n rhaid i 70 o bobl adael eu cartrefi yn Nyffryn Tafwys – gan ddod a nifer y rhai sydd wedi gorfod gadael eu tai i fwy na 1,000 ers diwedd mis Ionawr.

Mae’r Ysgrifennydd Cymunedau Eric Pickles hefyd wedi dweud bod ’na berygl y bydd Afon Hafren ac Afon Gwy yn gorlifo’u glannau, gan roi pwysau ychwanegol ar adnoddau.

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog wedi bod yn ymweld ag ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd yn Dawlish yn Nyfnaint, lle mae’r rheilffordd wedi cael ei ddifrodi, gan dorri’r cysylltiad gyda Chernyw a gweddill y wlad.

Dywedodd David Cameron y byddai’n cymryd amser cyn i bethau wella ond bod gweinidogion yn gwneud “popeth posib.”

“Mae hi’n her enfawr ac rydym ni wedi cael y dechrau gwlypaf i’r flwyddyn ers 250 o flynyddoedd, gyda’r tywydd mwyaf eithafol i ni ei weld yn y wlad ers degawdau.”