Mae’r actores Shirley Temple, a ddaeth i enwogrwydd pan oedd yn blentyn yn y 1930au, wedi marw yn 85 oed.

Bu farw Temple yn ei chartref ger San Francisco.

Roedd hi’n canu, dawnsio ac actio yn ei ffilmiau oedd yn cynnwys Curly Top a The Littlest Rebel.

Fe roddodd y gorau i actio pan oedd yn 21 oed a throi at wleidyddiaeth. Bu’n llysgennad ar ran America mewn sawl gwlad gan gynnwys Tsiecoslofacia yn yr 1980au hwyr.