Bydd Yr Eira’n rhyddhau dwy sengl newydd yn yr wythnosau nesaf, gan obeithio adeiladu ar eu llwyddiant y llynedd pan ddaethon nhw’n un o enwau newydd mwyaf cyffrous y sin roc Gymraeg.

Mae eu can ddiweddaraf, ‘Ymollwng’, ar gael i’w lawrlwytho o ddydd Mercher ymlaen, gyda’r band hefyd yn bwriadu rhyddhau sengl arall o’r enw ‘Yr Euog’ fis Mawrth.

Daeth y band ifanc o ardal Bangor i’r amlwg yn ail hanner 2013, gyda’r sengl ‘Elin’ yn un o ganeuon mwyaf cofiadwy’r flwyddyn.

Mae’r ddwy sengl yma, sydd yn cael eu rhyddhau gan I KA CHING Records, yn ddatblygiad i’r sesiwn C2 Radio Cymru a recordiwyd yn 2013 a oedd yn cynnwys ‘Elin’.

Mae’r band hefyd wedi’u henwebu ar gyfer Gwobrau Y Selar 2013, sydd yn cael eu cynnal yn Aberystwyth ar 15 Chwefror, o dan gategorïau ‘band newydd y flwyddyn’ a ‘can gorau y flwyddyn’.

Bydd modd lawrlwytho’r sengl ‘Ymollwng’ yn ddigidol yn unig o 12 Chwefror, gydag ‘Yr Euog’ yn cael ei rhyddhau ar 5 Mawrth.

Sengl newydd Yr Eira, ‘Ymollwng’: