Mae’r plismon a gafodd ei gyhuddo o ddweud celwydd tros ffrae Plebgate wedi cael ei ddedfrydu i 12 mis o garchar.

Cafodd y Cwnstabl Keith Wallis o West Drayton, dwyrain Llundain, ei gyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ar ôl honni ei fod wedi gweld y digwyddiad rhwng plismyn a Phrif Chwip y Blaid Geidwadol, Andrew Mitchell.

Cyhuddwyd PC Wallis o drefnu i’w nai gefnogi ei ddatganiad a’i fod wedi anfon e-bost at ei Aelod Seneddol, Dirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr, John Randall.

Roedd yn hawlio ar gam iddo fod yn dyst i’r digwyddiad yn Downing Street ar 19 Medi 2012.

Y cefndir

Cafodd y Prif Chwip, Andrew Mitchell, ei gyhuddo o alw plismyn yn ‘plebs’ ac fe arweiniodd hynny yn y diwedd at ei ymddiswyddiad.

Er ei fod yn cyfaddef iddo regi at yr heddlu, mae’r gwleidydd yn gwadu iddo ddefnyddio’r gair ‘plebs’.

Ym mis Tachwedd cyhoeddodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) y byddai Wallis a phedwar o’i gydweithwyr yn wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn difrifol yn dilyn y ffrae, gan olygu y gallen nhw gael eu diswyddo.