Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi £30m o arian ychwanegol er mwyn helpu cynghorau i atgyweirio’r difrod oherwydd y tywydd garw.

Mae’r arian ychwanegol yn golygu bod y swm sydd wedi’i neilltuo ar gyfer delio gydag effeithiau’r stormydd diweddar wedi cynyddu i £130m.

Yn ôl y Gweinidog Cymunedau a Llywodraeth Leol, Eric Pickles, mae cyllideb y llywodraeth ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd yn fwy nag erioed, ac mae 42 o amddiffynfeydd newydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2014/15.

Fe wnaeth Eric Pickles y cyhoeddiad mewn datganiad brys yn y Tŷ Cyffredin heddiw, gan siarad ar ran y Gweinidog Amgylchedd Owen Paterson oedd yn cael triniaeth brys ar ei lygad.

Dywedodd Mr Pickles y byddai’n ymestyn cynllun Bellwin fydd yn helpu gyda chostau amddiffynfeydd awdurdodau lleol yn Lloegr.

Ac fe wadodd hefyd gyhuddiadau cadeirydd yr Asiantaeth Amgylchedd a ddywedodd bod y llifogydd yn gorfodi pobl i ddewis rhwng “tref a chefn gwlad”.

“Rydym ni eisoes wedi gosod cynlluniau buddsoddi er mwyn gwella’r amddiffynfeydd i o leiaf 465,000 erbyn diwedd y ddegawd,” meddai Eric Pickles. “Yn ogystal, heddiw rydym yn cyhoeddi 42 cynllun amddiffynfeydd llifogydd newydd ar gyfer 2014/15.

“Gyda phob parch nid wyf yn cytuno gyda sylwadau’r Arglwydd Smith a awgrymodd bod dewis rhwng tref a chefn gwlad.”

Rhybuddion yn parhau

Mae rhybuddion llifogydd yn parhau ar draws Cymru, gyda’r diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru am 1yp heddiw yn dweud bod dau ‘Rybudd Llifogydd’ a naw rhybudd

‘Llifogydd – byddwch yn barod’.

Roedd y ddau Rybudd Llifogydd yn Nyffryn Dyfrdwy Isaf, a’r afon Hafren ger Cei’r Trallwng a Trewern.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhybuddion diweddaraf, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: <http://naturalresourceswales.gov.uk/?lang=cy>.