Llys y Goron Abertawe
Mae cariad dynes a gafodd ei thrywannu 40 o weithiau mewn ymosodiad yn ei chartref wedi ei gael yn euog o’i llofruddio.

Roedd Steven Daniel Williams, 30, o Heol Marsh, Dinbych y Pysgod wedi gwadu cyhuddiad o lofruddio Joanna Elizabeth Hall, 35, yn ei fflat ym mis Mawrth 2013.

Bu farw Joanna Hall yn yr ysbyty 19 diwrnod yn ddiweddarach.

Roedd Llys y Goron Abertawe eisoes wedi clywed bod Joanna Hall wedi dweud wrth ei chwaer a’r heddlu mai Steven Williams oedd wedi ymosod arni.

Roedd o’n honni ei fod wedi mynd allan i brynu sigaréts a photel wisgi a’i fod wedi dychwelyd i’r fflat a dod o hyd i Joanna’n gwaedu ar y llawr, gan ddweud y gallai rhywun fod wedi ymosod arni tra’r oedd o wedi mynd allan.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.