Mae cyn blismon o Heddlu Gwent a gafodd dros £400,000 o iawndal ar ôl iddo adael ei swydd, gan honni bod swyddogion eraill yn gneud hwyl am ei ben, wedi derbyn bygythiadau i’w ladd a negeseuon cas yn dweud wrtho am fwynhau’r arian.
Mae’r cyn heddwas yn mynnu ei fod wedi ymddwyn yn broffesiynol yn ystod digwyddiad lle’r oedd wedi torri ffenest car pensiynwr gyda phastwn, ac yn dweud nad yw’r iawndal yn ormod o arian o’i gymharu gyda’r swm fyddai o wedi ei ennill pe byddai wedi parhau yn ei swydd.
Dyma fideo YouTube yn dangos y digwyddiad pan mae’r heddwas yn torri’r ffenest car gyda phastwn:
Fe enillodd Mike Baillon, 42, yr iawndal ar ôl iddo honni bod swyddogion eraill yn gneud hwyl am ei ben ar ôl iddo adweithio yn erbyn y pensiynwr, am nad oedd o’n gwisgo gwregys diogelwch.
Roedd Robert Whatley, oedd yn 71 ar y pryd, wedi gwrthod stopio ei gar, er bod car heddlu yn gyrru y tu ôl iddo. Roedd yn honni ei fod angen mynd adref i nôl meddyginiaethau i’w galon.
Ar raglen Radio 5 Live, dywedodd Mike Baillon ei fod wedi derbyn bygythiadau i’w ladd ers ennill yr iawndal.
Gan gyfaddef fod £400,000 yn swm mawr o arian, roedd hefyd yn gwadu ei fod wedi mynd dros ben llestri wrth ddelio hefo’r pensiynwr yn yr achos yn 2009.
“Mae o’n lot o arian – yn lot fawr iawn o arian – ond dydi o ddim yn dod yn agos at beth faswn i wedi ennill petawn i wedi parhau yn fy swydd,” meddai ar y rhaglen radio.
‘Bwlio’
Fe glywodd tribiwnlys yng Nghaerdydd fod Mike Baillon wedi cael ei orfodi i adael ei swydd, am fod ei gydweithwyr yn ei fwlio ac yn gwneud hwyl am ei ben.
Mae’r iawndal yn cynnwys £430,000 o daliadau pensiwn a tua £10,000 am y cyflog yr oedd wedi ei golli ers gadael yr heddlu ym mis Awst 2012.