Michael Laudrup
Mae cyn reolwr Abertawe Michael Laudrup wedi dweud ei fod yn cymryd cyngor cyfreithiol wedi iddo gael ei ddiswyddo fel rheolwr clwb pêl-droed Abertawe.
Daeth y cyhoeddiad ar wefan Cymdeithas Rheolwr y Gynghrair Bêl-droed.
‘‘Yr wyf yn siomedig tu hwnt, yn benodol am y modd y cefais fy niswyddo heb unrhyw esboniad pendant. Yr wyf yn cymryd cyngor cyfreithiol ac yn barod wedi ysgrifennu at y clwb am esboniad. Serch hynny, hoffwn i gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gefnogwyr ac mae wedi bod yn anrhydedd i reoli’r fath glwb,’’ meddai Laudrup mewn datganiad.
‘‘Mae’r canlyniadau wedi bod yn siomedig ond mae’r clwb dal i fod yn 12fed yn nhabl yr Uwch Gynghrair. Yn anffodus mae anafiadau wedi ein rhwystro ychydig a dwi’n meddwl y byddwn ni wedi gwella ein chwarae wrth i’r gemau fynd yn eu blaen.
“Rwy’n dymuno’n dda i’r clwb a phob lwc ar gyfer y dyfodol yn y cystadlaethau,’’ ychwanegodd Laudrup.
Gellir darllen blog Alun Rhys Chievers yma…