Kevin Pietersen
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi dweud bod “dadl gref” o blaid cadw’r cricedwr lliwgar Kevin Pietersen yng ngharfan Lloegr.
Cafodd Pietersen wybod gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yr wythnos hon nad oes dyfodol iddo yn y garfan.
Daeth i’r amlwg dros y misoedd diwethaf fod perthynas Pietersen â gweddill y garfan a’r tîm hyfforddi wedi dod o dan straen, a bod yn rhaid datrys y sefyllfa ar frys.
Yn dilyn cyfnod allan o’r garfan, dychwelodd Pietersen ar gyfer dwy gyfres y Lludw, ac fe gafodd ei enwi yn y garfan ar gyfer Cwpan T20 y Byd sy’n dechrau ym Mangladesh fis nesaf.
Ond mae ei yrfa ryngwladol, i bob pwrpas, ar ben.
Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd penderfyniad y Bwrdd Criced ei feirniadu gan y newyddiadurwr Piers Morgan.
Mewn cyfweliad ar Radio Lancashire heddiw, dywedodd David Cameron, “Rwy’n gefnogwr mawr o Kevin Pietersen ac rwy wedi mwynhau ei wylio nifer o weithiau wrth iddo glatsio’r bêl dros y parc.
“Mae ei gyfartaledd e’n rhyfeddol.
“Nid yn aml mae gen i gydymdeimlad â Piers Morgan ond rwy’n credu iddo ddadlau’n bwerus y bore ma ar y radio.”
Ond ychwanegodd Cameron mai penderfyniad dewiswyr Lloegr yw cynnwys Pietersen ai peidio, ac fe wrthododd ddweud a yw’n cefnogi penderfyniadau’r capten Alistair Cook a’r dewiswyr.
Mae cyn-agorwr De Affrica, a chyn-hyfforddwr India a De Affrica, Gary Kirsten wedi mynegi diddordeb yn swydd hyfforddwr Lloegr.