Scott Williams
Mae canolwr Cymru a’r Scarlets Scott Williams wedi arwyddo cytundeb newydd o ddwy flynedd gyda’r rhanbarth o’r gorllewin.

Mae Williams wedi ymddangos 70 gwaith yng nghrys y Scarlets, wedi sgorio 52 o bwyntiau i’r rhanbarth ac wedi ennill 24 o gapiau i Gymru.

‘‘Rwyf yn hynod o falch o fod wedi sicrhau fy nghytundeb gyda’r Scarlets ac aros yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.  Does dim angen poeni nawr a gallaf ganolbwyntio ar ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad ac yna yn y Pro12,’’ meddai Williams.

Yn enedigol o Gastell Newydd Emlyn chwaraeodd rygbi i glwb rygbi Hendy Gwyn ac yna i Lanelli cyn ymuno â’r Scarlets yn 2009.

‘‘Mae Scott yn dalent eithriadol ac wedi dangos aeddfedrwydd yn ei chwarae.  Mae’n gryf, yn gyflym ac yn pasio’r bêl yn arbennig gan weithio’n galed yn ystod yr ymarferion.  Yr ydym yn falch bod rhywun a’i allu wedi ymrwymo ei ddyfodol yma ym Mharc y Scarlets,’’ meddai Simon Easterby, rheolwr y Scarlets.