Ar ôl perfformiad digon difflach yn erbyn yr Eidal fe fydd tîm Cymru (a miloedd o gefnogwyr) yn teithio i Ddulyn i herio Iwerddon y penwythnos hwn.
Yn trafod y perfformiad yr wythnos diwethaf, a gobeithion Cymru yn erbyn y Gwyddelod, mae gohebydd rygbi golwg360 Rhys Jones a’r blogwyr rygbi Owain Gwynedd ac Owain Gruffudd.
Mae’r tri hefyd yn rhoi eu barn ar ddewisiadau Gatland ar gyfer ail gêm y Chwe Gwlad – ai Priestland neu Biggar ddylai fod yn gwisgo’r crys rhif 10?