Mae ymgyrch sy’n annog cefnogwyr rygbi i dyfu barf fel teyrnged i Ray Gravell wedi dechrau’r mis hwn.

Cafodd ymgyrch ‘Grow a Grav’ ei sefydlu yn 2010 er mwyn codi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Ray Gravell a’i Ffrindiau, sy’n rhoi cymorth i chwaraewyr a chyn-chwaraewyr rygbi sydd wedi dioddef yn sgil salwch neu anaf.

Bu farw’r cyn-chwaraewr a sylwebydd yn 56 oed yn 2007 yn dilyn trawiad ar ei galon.

Roedd Ray Gravell yn enwog am ei farf yn ystod ei yrfa gyda Llanelli, Cymru a’r Llewod.

Yn ôl Cymdeithas y Cyn-chwaraewyr, mae rheolau’r ymgyrch yn syml, sef bod rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod wedi siafio ar fore Chwefror 1, ac yna tyfu’r barf am weddill y mis.

Gall pobl sy’n dymuno cyfrannu i’r achos fynd i wefan Just Giving www.justgiving.com/growagrav2014, neu mae modd cyfrannu trwy anfon neges destun ‘Grav13£3’ i 70070.

Am ffyrdd eraill o gyfrannu, ewch i www.wrpa.co.uk.