David Marshall
Mae golwr Caerdydd David Marshall wedi arwyddo cytundeb newydd hir dymor gyda’r clwb nes haf 2018.
Cyhoeddodd y clwb y newyddion neithiwr, gyda’r rheolwr Ole Gunnar Solskjaer yn mynegi’i falchder eu bod wedi llwyddo i sicrhau llofnod y golwr am bedair blynedd a hanner arall.
Mae’r Albanwr wedi serennu i Gaerdydd y tymor hwn, gan chwarae pob munud o’u gemau yn yr Uwch Gynghrair a chael ei enwi’n seren y gêm ar sawl achlysur.
Arwyddodd Marshall i Gaerdydd o Norwich yn 2009, a’r tymor hwn mae wedi cadw pum llechen lân yn ogystal â gwneud 88 arbediad – mwy nag unrhyw olwr arall yn y Gynghrair.
“Mae hyn yn wych – rydym ni wrth ein boddau i sicrhau dyfodol David,” meddai Solskjaer mewn cyfweliad i wefan y clwb.
“Mae wrth ei fodd yma yng Nghaerdydd ac roedd yn awyddus iawn i aros gyda’r clwb. Mae’n rhoi hwb i bawb yma.
“Rydym ni bellach yn gwybod bod un o olwyr gorau’r wlad am aros gyda ni am flynyddoedd i ddod. Mae hyn yn newyddion i’w groesawu cyn y ddarbi De Cymru ddydd Sul ac mae’n amseru gwych iddo ef ac i ni wrth i ni edrych tuag at weddill y tymor.
Ac yn ôl Marshall, sy’n 28 bellach, roedd arwyddo’r cytundeb o’r diwedd yn golygu y gallai ganolbwyntio’n llwyr ar chwarae o hyn ymlaen.
“Rwyf wrth fy modd mod i am aros yng Nghaerdydd. Rwyf wedi cael pedair blynedd a hanner gwych yma’n barod ac yn edrych ymlaen at lawer mwy gyda’r clwb.
“Mae’n fraint cael bod yn rhan o beth rydyn ni’n ceisio’i gyflawni ac mae’r cefnogwyr wedi bod yn wych o’r cychwyn cyntaf. Mae gennym ni lot o waith caled ar ôl y tymor yma, ond rydyn ni’n grŵp hyderus gyda digon o allu a ffydd.
“Mae’n rhyddhad nad oes angen meddwl am y cytundeb rhagor ac mae’n golygu y gallaf barhau i ffocysu ar helpu ni i ennill gemau.”