Cafodd cefnogwyr Abertawe ychydig o ysgytwad ddoe ar ôl i’r clwb gyhoeddi eu bod nhw wedi rhoi’r sac i Michael Laudrup, y gŵr a’u harweiniodd i fuddugoliaeth yng Nghwpan Capital One lai na blwyddyn ynghynt.
Garry Monk sydd wedi’i benodi’n brif hyfforddwr dros dro, gydag Alan Curtis yn ei gynorthwyo wrth i’r clwb baratoi am gêm ddarbi fawr ar y penwythnos.
Ac yn ymuno ag Owain Schiavone ac Iolo Cheung ar y pod pêl-droed y prynhawn yma mae cyn-ohebydd chwaraeon golwg360, Dafydd Morgan, sydd hefyd yn gefnogwr brwd o’r Elyrch.
Mae’r tri’n trafod penderfyniad Abertawe i ddiswyddo’r rheolwr a rhai o’r trafferthion sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn ddiweddar, yn ogystal â phenodiad Garry Monk dros dro.
Maen nhw hefyd yn bwrw cipolwg ar rai o’r ceffylau blaen eraill sydd yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd barhaol yn Abertawe, yn edrych ymlaen at y ddarbi yn erbyn Caerdydd ar y penwythnos, yn ogystal â thrafod rhai o drosglwyddiadau Cymreig y ffenestr drosglwyddo.