Mae Abertawe wedi cyhoeddi bod is-reolwr Abertawe, Morten Wieghorst, wedi cael y sac ddiwrnod ar ôl i’r clwb ddiswyddo’r rheolwr Michael Laudrup.
Mewn datganiad prynhawn yma fe ddywedodd y clwb bod Wieghorst, yr hyfforddwr ffitrwydd Oscar Garcia a’r sgowt tramor Erik Larsen i gyd wedi gadael eu swyddi, wrth i ad-drefnu’r tîm rheoli barhau.
Roedd y tri’n rhan o’r tîm o staff cynorthwyol a ddaeth i’r clwb yn dilyn penodiad Laudrup i’r swydd.
“Byddai’r clwb yn hoffi diolch iddynt am eu gwasanaeth,” meddai’r datganiad.
Capten y clwb Garry Monk sydd wedi’i benodi’n brif hyfforddwr dros dro, gyda’r profiadol Alan Curtis yn ei gynorthwyo.
Mae Pep Clotet, a gafodd ei benodi’n Gynorthwyydd yr Academi ym mis Tachwedd, hefyd yn parhau yn ei swydd.
Sac i Laudrup: Barn y cefnogwyr
Monk i “roi popeth”
Yn y cyfamser mae Garry Monk wedi dweud y bydd yn “rhoi popeth” er mwyn cadw’r Elyrch o waelodion y tabl cyn diwedd y tymor.
Fe siaradodd Monk i’r garfan yn eu sesiwn ymarfer cyntaf ar faes Fairwood y bore yma, wrth i’r tîm baratoi i herio Caerdydd yn y ddarbi fawr ddydd Sadwrn.
“Byddaf yn rhoi popeth i Abertawe, gallaf addo hynny i’r cefnogwyr,” cyhoeddodd Monk. “Ac fe fyddaf yn sicrhau bod y chwaraewyr yn gwneud yr un peth.
“Rydym ni i gyd yn yr un cwch ac fe wnaf i’n siŵr ein bod ni’n aros gyda’n gilydd. Dyna sut fu pethau yn Abertawe ers i mi allu cofio.
“Rwy’n nabod pob twll a chornel o’r clwb ac fe fyddaf yn ceisio defnyddio’r wybodaeth honno i wella Abertawe. Rwyf hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw’r clwb yma i’r cefnogwyr.
“Nhw yw’r bobl bwysig yn hyn i gyd ac fe wnaf i ymladd yr holl ffordd drostynt. Mae hon yn foment balch iawn i mi, ac rwy’n anelu i wneud y gorau posib i’r clwb a’i chefnogwyr ffyddlon.”