Michael Laudrup gyda Huw Jenkins
Neithiwr fe gyhoeddodd Clwb Pêl-droed Abertawe mewn datganiad eu bod nhw wedi diswyddo’u rheolwr Michael Laudrup ar ôl blwyddyn a hanner gyda’r clwb.
Y capten Garry Monk sydd wedi cymryd yr awenau dros dro, gyda’r hyfforddwr profiadol Alan Curtis yn ei gynorthwyo.
Ac er bod enwau eraill hefyd wedi cael eu cysylltu â’r rôl, Monk fydd y rheolwr pan fydd Abertawe’n herio Caerdydd yn y ddarbi fawr y penwythnos yma.
Ond beth yw barn y cefnogwyr am hyn i gyd? Dyma ddetholiad o’u sylwadau i golwg360.
Cath Dyer o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe (sydd yn berchen ar 20% o’r clwb): “Roedd e’n syndod i ddechrau – fe wnaeth Laudrup lot drosom ni fel clwb gan gynnwys ennill Cwpan Capital One a chyrraedd Ewrop.
“Ond doedd rhywbeth ddim yn iawn, roedd lot o straeon yn y newyddion, ac i fi ar y cae doedden nhw ddim yn chwarae fel tîm go iawn. Roedd pawb yn credu erbyn yr haf bydde fe wedi mynd.
“Fi’n lico Garry Monk, mae wedi bod yn grêt i’r clwb. Mae’n ddyn teuluol sy’n byw yn yr ardal ac yn ‘Swans through and through’, felly fi’n falch drosto fe. Gobeithio bydd y chwaraewyr yn ymateb iddo fe, ac mae ganddo fe Alan Curtis, Pep [Clotet] a Lee Trundle o gwmpas hefyd.
“Mae Garry’n fachan mae pawb yn lico fe, mae’n dod drosto fel dyn llawn hwyl, gyda’r egni i godi’r tîm i fyny. Mae ‘na rai yn dweud ei bod hi’n rhy sydyn iddo [gael y swydd] ond ma fe ‘di bod gyda’r clwb ers 10 mlynedd ac fe ddyle fe gael y cyfle i ddangos beth mae’n gallu gwneud.”
Meilyr Emrys: “Mae’n siom fod o wedi digwydd rŵan o ran amseru, ond roeddwn i’n reit sicr fysa fo’n mynd ar ddiwedd y tymor. Ond dwi 100% y tu ôl i benderfyniad Huw Jenkins [y cadeirydd], fysa fo ddim yn gwneud penderfyniad fel ‘na os na bod o’n teimlo bod rhaid.
“Yr argraff oeddwn i’n ei gael oedd bod Huw Jenkins eisiau sortio pethau allan, felly os wnaeth o benderfynu bod dim modd gwneud hynny a bod rhaid gadael i Laudrup fynd rhaid i ni gefnogi hynny.
“Mae’n amlwg bod unrhyw angerdd oedd gan Laudrup ‘di mynd ers sbel. O leiaf efo Garry Monk ‘da ni’n sicr bod yn angerdd yna.
“O ran y dyfodol byswn i’n meddwl fod gan Jenkins gynlluniau ar gyfer rheolwr ers amser – mae Graham Jones yn un enw sydd ‘di cael ei grybwyll, a Dennis Bergkamp hefyd.
Rhydwen James: “Rwy’n siomedig iawn, roeddwn i’n un o gefnogwyr mawr Laudrup. Fe wnaeth e job dda iawn ac ni wedi cyrraedd entrychion doedden ni ddim yn disgwyl cyrraedd.
“Mae’n sioc fawr, yn enwedig yn amseriad, cyn y gêm fawr yn erbyn Caerdydd a chyn iddyn nhw fynd i Napoli.
“Ond mae yna honiad bod sawl chwaraewr wedi dod i’r clwb doedd e ddim yn gwybod dim amdano fe, ac os taw chi sy’n rheoli chi sydd fod i reoli yntife.
“Dros dro yw Monk ac mae’n rhaid i ni gefnogwyr fod wrth ei gefn e. Mae’n ddewr iawn i dderbyn y swydd ond mae ganddo Alan Curtis. Ond mae dod mewn i dîm Uwch Gynghrair heb neud e o’r blaen yn dipyn o stepen.”
Huw Jones: “Sai’n synnu bod Laudrup wedi gadael, ond yn synnu gydag amseriad y penderfyniad, yn enwedig o ystyried y ffaith bod pawb yn disgwyl iddo adael yn yr haf.
“Mae gen i ffydd ym mhenderfyniad Huw Jenkins a’r bwrdd oherwydd dy’n nhw heb neud camgymeriad ers arwain y clwb dros y deng mlynedd diwethaf i’r gynghrair uchaf. Maen nhw’n amlwg wedi colli ffydd yn Laudrup a ddim yn teimlo ei fod gyda’r gallu i gael ni allan o drwbl.
“Mae’n rhaid i ni gefnogi Garry Monk o nawr tan ddiwedd y tymor, yr unig amheuaeth sydd gyda fi yw sut fydd y chwaraewyr o Sbaen yn ymateb i’r newid. O ran yr hir dymor, byddwn i’n hapus gyda rhywun fel Bielsa neu Bergkamp, unrhyw un fydd yn barod i fabwysiadu ‘the Swansea way’.”