Mae pennaeth Scotland Yard wedi cyfaddef bod marwolaeth Mark Duggan wedi arwain at “ostyngiad sylweddol mewn ymddiriedaeth” rhwng cymunedau pobl groenddu Llundain a’r heddlu.

Daeth ei sylwadau ar ôl i deulu Mark Duggan fynegi eu dicter ddoe yn dilyn canlyniad y cwest i’w farwolaeth. Dyfarnodd y rheithgor bod y tad i chwech o blant wedi ei ladd yn gyfreithlon pan gafodd ei saethu gan blismon arfog, er gwaetha’r ffaith nad oedd ganddo arf yn ei feddiant ar y pryd.

Roedd ’na olygfeydd dramatig yn y Llys Cyfiawnder ddoe wrth i gefnogwyr Duggan, 29, alw’r heddlu’n “lofruddwyr”.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu Llundain Syr Bernard Hogan-Howe ei fod yn derbyn bod ’na ddicter o hyd ond mae wedi croesawu dyfarniad y rheithgor.

Ond ychwanegodd: “Dw i’n gwybod bod ganddon ni gryn dipyn o waith i’w wneud i adfer ffydd a hyder pobl ddu Llundain yn yr Heddlu Metropolitan.”

Fe fydd yn cwrdd â chynrychiolwyr gwleidyddol o Lundain ac arweinwyr cymunedau lleol o Tottenham heddiw i drafod sut i wella’r berthynas.

Bydd swyddogion arfog yn treialu gwisgo camerâu fideo er mwyn cofnodi tystiolaeth mewn ymdrech i adfer hyder y cyhoedd.

Fe arweiniodd marwolaeth Mark Duggan at derfysgoedd ar draws y wlad yn ystod Awst 2011.