Mae Marks & Spencer wedi cyhoeddi gostyngiad o 2.1% yng ngwerthiant nwyddau cyffredinol dros gyfnod y Nadolig.

Dyma’r degfed mis yn olynol i’r cwmni gyhoeddi canlyniadau siomedig mewn gwerthiant nwyddau i’r cartref a dillad.

Nid oedd gwelliant o 0.5% yn yr 8 wythnos yn arwain at Noswyl Nadolig yn ddigon i roi hwb i berfformiad gwael yng ngwerthiant ei nwyddau cyffredinol.

Mae archfarchnad Tesco hefyd wedi cyhoeddi cwymp o 2.4% mewn gwerthiant yn y 6 wythnos hyd at 4 Ionawr, ac mae Morrisons wedi cyhoeddi gostyngiad o 5.6% mewn gwerthiant dros yr un cyfnod y bore ma.