Y gysgodfa ar y prom yn Aberystwyth
Mae Cadw wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion i atgyweirio’r gysgodfa gyhoeddus ar y promenâd, a gafodd ei difrodi yn dilyn y stormydd ar ddechrau’r wythnos.
Bydd y cyngor yn asesu cost y difrod yn y dyddiau nesaf ac er na fydd hi’n bosibl mesur llawn faint y difrod na’r amser y bydd yn ei gymryd i’w atgyweirio, maen nhw’n credu y bydd y gost yn “sylweddol”.
Mae 120 tunnell o raean wedi cael ei glirio o’r ffyrdd a’r prom hyd yn hyn.
Cymorth y cyhoedd
Mae nifer o aelodau o’r cyhoedd wedi cynnig cynorthwyo’r cyngor gyda’r gwaith o glirio’r difrod ar weddill y prom.
Y cam cyntaf fydd clirio’r llanast oddi ar y ffyrdd a’r palmentydd, unwaith y bydd y peiriannau mawr wedi gorffen eu gwaith.
Nid yw hi’n briodol ar hyn o bryd i wirfoddolwyr gynorthwyo gyda’r gwaith meddai’r cyngor ond, gan ddibynnu ar y tywydd, mae’r cyngor yn gofyn i’r cyhoedd roi help llaw iddyn nhw tua diwedd yr wythnos.
Wrth siarad am y gysgodfa ar y prom, sy’n adeilad rhestredig, dywedodd un o swyddogion y cyngor, Mel Hopkins ar y Post Prynhawn:
“Mae’n rhaid cael y balans o dynnu’r adeilad yn saff ac yn sydyn.
“Mae nifer o’r trawstiau pren wedi sigo ond mi fyddwn ni’n ceisio cadw gymaint o’r adeilad ag y gallwn ni i ddefnyddio pan fyddwn ni’n ei ailadeiladu.”