Mam Mark Duggan, Pam Duggan, a'i mab Marlon Duggan
Cafodd Mark Duggan ei ladd yn gyfreithlon pan gafodd ei saethu’n farw gan blismon arfog, meddai rheithgor heddiw.
Roedd marwolaeth y tad i chwech o blant wedi arwain at brotestiadau treisgar ar draws y wlad. Cafodd Duggan ei saethu gan yr heddlu pan gafodd y tacsi roedd yn teithio ynddo ei stopio yn Tottenham, gogledd Llundain ym mis Awst 2011.
Roedd yr heddlu wedi bod yn dilyn Mark Duggan, 29, am eu bod yn credu ei fod yn bwriadu cael gwn gan ddyn arall, Kevin Hutchinson-Foster, cyn mynd i Broadwater Farm, sydd hefyd yn Tottenham.
Heddiw dyfarnodd y rheithgor yn y Llys Cyfiawnder bod Mark Duggan wedi ei ladd yn gyfreithlon gan yr heddlu.
Daethon nhw i’r casgliad bod ganddo wn yn ei feddiant ond nad oedd y gwn yn ei law pan gafodd ei saethu.
Roedd ’na olygfeydd dramatig yn y llys pan ddaeth y cyhoeddiad prynhawn ma gyda rhai o gefnogwyr Mark Duggan yn gweiddi “llofruddwyr” a “Dim cyfiawnder, dim heddwch.”
Cafodd staff diogelwch eu galw ar ôl i ddrws gael ei ddifrodi yn y llys.
Tu allan i’r llys dywedodd cyfreithwraig ar ran y teulu Marcia Willis Stewart bod teulu Mark Duggan mewn “sioc” yn dilyn y dyfarniad.
“Nid ydyn nhw’n gallu credu beth sydd wedi digwydd. Nid oedd ganddo wn yn ei law ac eto cafodd ei ladd – neu ei lofruddio fel maen nhw’n ei ddweud.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref y byddai ymchwiliad Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn parhau “gan gymryd i ystyriaeth y dystiolaeth gafodd ei glywed yn ystod y cwest. Ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach tra bod y broses yn parhau.”