Bydd plant yn cychwyn yr ysgol yn 4 oed o fis Medi
Mae Cabinet Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo toriadau heddiw a fydd yn golygu bod plant yn dechrau addysg llawn amser flwyddyn yn ddiweddarach nag y maen nhw ar hyn o bryd.
Dywed y cyngor y byddai cynyddu’r oedran o dair i bedair yn arbed £3.7 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn dilyn cwynion gan nifer o rieni, mi fydd y newidiadau yn dod i rym ym mis Medi yn hytrach na mis Ebrill fel yr oedd y cyngor wedi bwriadu gwneud yn wreiddiol.
Dywedodd UCAC y bydden nhw’n gwrthwynebu unrhyw ddiswyddiadau a ddaw yn sgil yr arbedion.
Dywedodd Jane Rees, sy’n athrawes yn ardal Rhondda Cynon Taf ac yn aelod o UCAC, ar y Post Prynhawn: “Mae’n drist clywed penderfyniad y cyngor. Dwi’m yn credu eu bod nhw wedi gwrando ar yr holl wrthwynebiadau yn yr ardal.
“Mae hon yn ardal ddifreintiedig ac mae’n bwysig bod plant yn cael addysg o 3 oed ymlaen.”
‘Heb wrando ar lais y cyhoedd’
Fe fu aelodau Cabinet yn cyfarfod heddiw i drafod sut i wneud arbedion o £70 miliwn dros y pedair blynedd nesa.
Roedd y cyfarfod yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda thrigolion y sir am y toriadau oedden nhw wedi’u hamlinellu ym mis Hydref. Roedd 6,500 o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Bu’r cyngor yn trafod materion eraill fel cau llyfrgelloedd a thorri amseroedd canolfannau hamdden. Fe benderfynwyd hefyd i gwtogi ar y prydau pryd ar glud sy’n cael eu darparu i’r henoed, a bydden nhw’n cael eu darparu bob dydd Gwener ar ôl i’r newid ddod i rym.
Mae dirprwy arweinydd y cyngor, Paul Cannon, wedi dweud fod y newidiadau yn golygu fod y cynghorwyr wedi gwrando ar lais y cyhoedd.