Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi dweud bod achos teulu o ogledd Cymru oedd wedi methu cael presgripsiwn i’w mab yn archfarchnad Morrisons ym Mangor oherwydd ei fod wedi cael ei ysgrifennu’n Gymraeg, yn dangos “bod anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith yn parhau ar y cyrion.”
Roedd Meri Huws yn ymateb ar ôl i Aled Mann o’r Felinheli yng Ngwynedd ddweud ar y wefan gymdeithasol Facebook ei fod yn “warthus” ei fod wedi gorfod mynd yn ôl i’r feddygfa i ofyn am bresgripsiwn arall yn Saesneg gan nad oedd Morrisons yn gallu delio gyda’r presgripsiwn Cymraeg.
Dywedodd nad oedd yr un fferyllfa arall ym Mangor neu Gaernarfon gyda’r cyffur yr oedd ei fab 15 mis oed ei angen ddydd Llun ar wahân i Morrisons.
Yr unig eiriau Cymraeg oedd ar y presgripsiwn, meddai, oedd cyfarwyddiadau ynglyn a sut i roi’r feddyginiaeth i’w fab.
Meddai Aled Mann ar Facebook: “Gwarthus o beth yn ein gwlad ein hunain!!”
Ddoe, cafodd ei fab, Harley, ei gludo i Ysbyty Gwynedd gyda thrafferthion anadlu ond mae’n gwella erbyn hyn.
‘Ateb anghenion’
Wrth ymaetb i’r digwyddiad, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw ar weithwyr iechyd i sicrhau eu bod yn cydweithio er mwyn ateb anghenion iaith y claf a’r gymuned.
Dywedodd: “Rydym yn clywed o hyd bod y claf yn ganolbwynt i wasanaeth iechyd yng Nghymru ond mae’r achos hwn yn amlygu bod anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith yn parhau ar y cyrion ac yn cael eu diystyru.
“Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Er mwyn i’r statws hwn fod yn rhywbeth real sy’n golygu rhywbeth i’r dinesydd yng Nghymru rhaid i lywodraethau Cymru a Phrydain adolygu’r deddfau a’r mesurau sy’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ar frys.
“Yn yr achos hwn, mae’n ymddangos bod y meddyg teulu wedi ymateb yn gwbl briodol i anghenion ieithyddol y teulu. Mae’n achos sy’n amlygu pwysigrwydd sicrhau bod gweithwyr iechyd yn cydweithio er lles unrhyw glaf; a bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio er mwyn ateb anghenion ieithyddol yr unigolyn a’r gymuned.
“Mae’n gyfrifoldeb ar y gwasanaeth iechyd i ddod o hyd i atebion i unrhyw rwystrau ac nid i greu rhwystrau i gleifion.”
‘Eilradd’
Dywedodd Osian Jones, swyddog maes Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd bod yr achos yn “warthus” ac yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu “trin yn eilradd” yng Nghymru.
Meddai: “Er holl siarad gwag y Llywodraeth, mae hyn yn dangos gwir realiti’r sefyllfa i ddefnyddwyr y Gymraeg o ddydd i ddydd.
“Fel tad i fachgen ifanc fy hun, dwi’n gynddeiriog o glywed bod teulu wedi cael
gwrthod presgripsiwn gan siop Morrisons ym Mangor, am fod y presgripsiwn hwnnw wedi ei ysgrifennu’n Gymraeg.”
Ychwanegodd Osian Jones: “Rydym yn disgwyl dim llai nag esboniad llawn gan y cwmni, a datganiad gan y Prif Weinidog a Chomisiynydd y Gymraeg yn nodi bod ymddygiad cwmni Morrisons yn hollol annerbyniol.
“Cyhoeddwyd set gyntaf o safonau iaith y Llywodraeth wythnos yma, ac mae’r achos hwn yn atgyfnerthu ein dadleuon bod rhaid i’r sector preifat yng Nghymru wynebu eu dyletswyddau i siaradwyr Cymraeg, er mwyn creu cymdeithas lle na fydd siaradwyr Cymraeg yn teimlo fel dinasyddion eilradd yn eu gwlad eu hunain.”
Ymateb Morrisons
Dywedodd llefarydd ar ran Morrisons “bod canllawiau manwl mewn lle ar gyfer paratoi meddyginiaethau gan fferyllfeydd.
“Maen nhw’n nodi y dylai presgripsiynau gael eu hysgrifennu yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
“Yn yr achos yma, nid oedd fferyllfa Tesco yn gallu darparu’r cyffur oedd ei angen ac roedden nhw wedi gofyn am gymorth gan ein fferyllfa ni.
“Er mwyn gwneud yn hollol siŵr bod y dos cywir yn cael ei baratoi, fe ofynnodd ein fferyllydd am bresgripsiwn dwyieithog ac, unwaith iddo’i dderbyn, roedd yn gallu rhoi’r feddyginiaeth i’r cwsmer.”