Mae dyn wnaeth bostio fideos o’i hun ar lein wedi’i wisgo fel aelod o’r Ku Klux Klan (KKK) wedi cael ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar heddiw.
Roedd Christopher Philips, 24, wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad o ysgogi casineb hiliol y llynedd.
Roedd Philips wedi cyhoeddi tri fideo o’i hun ar lein yn cymryd arno ei fod yn crogi dol ddu mewn digwyddiad yn Abertawe oedd wedi cael ei drefnu gan grŵp asgell dde eithafol.
Daeth i’r amlwg yn y llys heddiw bod Christopher Philips yn dioddef o syndrom Aspergers a’i fod wedi cael ei ddiarddel o’r mudiad gwleidyddol y National Front oherwydd bod ei ddaliadau gwleidyddol yn rhy eithafol.
‘Ymfflamychol iawn’
Meddai’r Barnwr John Warner wrth Philips bod y fideos a gafodd eu cyhoeddi ganddo yn amlwg yn “sarhaus” neu’n “ymfflamychol iawn” ac nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond ei garcharu.
Aeth ymlaen i ddisgrifio “edmygedd” Philips o’r Ku Klux Klan fel rhywbeth “ffiaidd”.
Wrth chwilio ei gartref, daeth yr heddlu o hyd i faner White Pride a chopi o lythyr at gydnabod i Philips o’r Almaen gan Anders Breivik a laddodd 77 ac anafu 242 mewn ymosodiadau yn Norwy ar 22 Gorffennaf, 2011.
Cyn y gwrandawiad dedfrydu heddiw, dywedodd y Ditectif Arolygydd Darren Powney: “Rydym yn deall pa mor sarhaus a gofidus gall y math hwn o ddeunydd fod ac rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn ag ymddygiad eithafol o unrhyw fath i gysylltu â’r heddlu ar 101.”