Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau ar ôl i ddynes gael ei darganfod yn farw mewn tŷ yng ngorllewin Sussex.

Roedd y ddynes 55 oed wedi cael anaf difrifol i’w phen pan gafwyd hyd iddi mewn ty yn Smuggler’s Lane, Bosham ger Chichester.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sussex nad yw archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal hyd yn hyn ond eu bod yn trin ei marwolaeth fel un amheus.

Mae Heddlu Sussex yn credu mai Valerie Graves, o Bracklesham Bay, Gorllewin Sussex oedd hi.

Mae’r heddlu’n apelio ar dystion a allai fod wedi gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal rhwng pnawn dydd Sul, 29 Rhagfyr a tua 9yb ar ddydd Llun, 30 Rhagfyr i gysylltu â nhw.