Dr Richard Haass
Er i’r trafodaethau i geisio datrys y prif raniadau yn y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon barhau drwy’r nos, maen nhw wedi dod i ben heb gytundeb.

Dywedodd cadeirydd y trafodaethau Dr Richard Haass, cyn lysgennad yr Unol Daleithiau, nad oedd wedi llwyddo i sicrhau consensws ar gyfer cynlluniau’n ymwneud a baneri a gorymdeithiau, a chanlyniadau’r Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fydd grŵp gweithredol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r pum brif blaid nawr yn cael ei sefydlu, meddai, er mwyn ceisio dod o hyd i ffordd arall o ddod i gytundeb ac adeiladu ar y “cynnydd sylweddol” a wnaed yn ystod y trafodaethau ym Melfast.

Roedd Sinn Fein wedi dweud eu bod yn fodlon cymeradwyo’r cynlluniau terfynol i bwyllgor gwaith y blaid, ond mae’n debyg nad oedd plaid unoliaethol y DUP ac Unoliaethwyr Ulster yn fodlon arwyddo’r ddogfen neithiwr.

Cafodd Dr Haass ei gomisiynu gan y Prif Weinidog Peter Robinson a’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness i gadeirio’r trafodaethau.

Mae Dr Haass wedi annog Peter Robinson a Martin McGuinness i gyhoeddi manylion y ddogfen derfynol fel bod pobl yn gallu penderfynu dros eu hunain. Mae’n gwadu bod y broses wedi bod yn fethiant gan ddweud eu bod wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol.

Mae’r tensiynau ynglŷn â gorymdeithiau dadleuol sy’n aml yn arwain at drais, ynghyd a chwifio baneri ar adeiladau cyhoeddus ac mewn ardaloedd teyrngarol a gweriniaethol, yn parhau’n feini tramgwydd i’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Mae ’na anghydweld hefyd ynglŷn â’r ffordd ymlaen i fynd i’r afael a chanlyniadau’r Trafferthion, gyda nifer o’r dioddefwyr yn mynnu cael atebion a chyfiawnder am y miloedd o lofruddiaethau sydd eto heb eu datrys.