Fred Talbot yn cyflwyno'r tywydd ar This Morning
Mae’r cyn gyflwynydd tywydd Fred Talbot wedi cael ei ail-arestio mewn cysylltiad â honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol yn ardal Manceinion a gogledd ddwyrain Lloegr.
Cafodd Talbot, 63 oed, ei arestio ar amheuaeth o gam-drin pump o gyn ddisgyblion mewn ysgol yn Altrincham.
Mae hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad anweddus mewn cysylltiad â throseddau a ddigwyddodd yng ngogledd ddwyrain Lloegr.
Cafodd Talbot, sy’n fwyaf cyfarwydd am gyflwyno’r tywydd ar raglen ITV This Morning, ei arestio am y tro cyntaf ar Ebrill 9, ar amheuaeth o droseddau rhyw hanesyddol mewn cysylltiad â honiadau o gam-drin pedwar bachgen yn Ysgol Ramadeg Altrincham i Fechgyn yn ystod y cyfnod pan oedd yn athro yno.
Dywedodd Heddlu Manceinion fod Fred Talbot yn parhau i fod ar fechnïaeth mewn cysylltiad â un achos o ymosod yn anweddus. Mae’n cael ei holi gan yr heddlu.
Ni chafodd unrhyw gamau pellach eu cymryd mewn cysylltiad â’r troseddau honedig eraill yn dilyn ei arestio am y tro cyntaf.